Mae pob plentyn yn haeddu’r cartref a’r gofal cywir. Rhaid sicrhau bod y newidiadau i gartrefi plant yng Nghymru ddim yn peryglu hynny.
Mae’r Children’s Homes Association (CHA) yn cydlynu CareChildrenNeed.Wales, ymgyrch sy’n galw am adolygiad o’r diwygiadau i ofal preswyl i blant yng Nghymru er mwyn diogelu’r cartrefi, y timau profiadol a’r cymorth arbenigol y mae plant yn dibynnu arnynt.
Pam mae’r ymgyrch yn bwysig
Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru bolisi i ddileu darparwyr preifat gofal preswyl i blant yn raddol erbyn 2030.
Mae mwy na thri chwarter y gwasanaethau cartrefi plant cofrestredig a’r lleoedd sydd ar gael ynddynt yng Nghymru yn cael eu rhedeg yn breifat. Mae llawer o’r cartrefi hyn wedi treulio degawdau yn datblygu timau profiadol, arbenigedd penodol a magu pherthnasoedd o ymddiriedaeth â’r plant yn ei gofal.
O dan y trefniadau presennol, mae’n rhaid i ddarparwyr sy’n dymuno parhau - gau eu busnesau presennol a sefydlu elusennau newydd, oherwydd does dim modelau di-elw eraill yn cael eu derbyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn creu risg o golli gwasanaethau ac arbenigedd sefydledig cyn bod digon o ddewisiadau amgen addas ar gael.
Mae CHA yn cefnogi’r egwyddor y dylai arian a fwriedir ar gyfer gofal plant fod o fudd i blant. Ond rhaid sicrhau nad yw’r diwygiadau’n arwain at lai o gartrefi addas i blant nac yn amharu ar y gofal y maent yn dibynnu arno.
Yr hyn rydym yn galw amdano
Mae CHA a CareChildrenNeed.Wales yn galw ar Lywodraeth bresennol Cymru i:
1. Ohirio’r amserlenni: Caniatáu digon o amser i sicrhau bod gofal addas ar gael cyn i gyfyngiadau pellach ddod i rym. Gohirio gweithredu’r diwygiadau tan 2035, gyda cherrig milltir a gwiriadau blynyddol.
2. Adolygu’r polisi a’r ffordd y caiff ei weithredu: Ailasesu’r dystiolaeth ynghylch argaeledd gofal, costau, capasiti’r gweithlu ac effaith y diwygiadau.
3. Diogelu’r gofal sydd ei angen ar blant: Datblygu dewisiadau amgen ymarferol sy’n caniatáu i gartrefi presennol o ansawdd da, ynghyd a timau profiadol a’u harbenigedd barhau i fod yn rhan o’r system ofal.
Archwiliwch y dystiolaeth a gweithredwch
Mae gwefan yr ymgyrch yn darparu tystiolaeth genedlaethol a dadansoddiad lleol ar gyfer pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Dysgwch sut y gallai’r diwygiadau effeithio ar blant yn eich ardal a chysylltwch â’ch Aelod o’r Senedd i alw am newid.
Ewch i CareChildrenNeed.Wales
Ymateb CHA i’r ymgynghoriad
Mae ymateb CHA i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn codi pryderon ynghylch yr amserlen, argaeledd gofal addas, costau a’r rhwystrau sy’n wynebu darparwyr presennol.
• Darllenwch ymateb llawn CHA i’r ymgynghoriad (PDF)
• Darllenwch ddatganiad CHA ar yr ymateb i’r ymgynghoriad